Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Communities, Equality and Local Government Committee

CELG(4)-19-15 Papur 2 / Paper 2

Annwyl gyfaill

Dyma achub ar gyfle i gyflwyno sylwadau a fydd, gobeithio, o gymorth wrth ystyried Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Cyflwynir yr ymateb ar ran Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru/The Welsh Place-Name Society (CELlC).

 Nod CELlC yw hybu ymwybyddiaeth, astudiaeth a dealltwriaeth o enwau lleoedd Cymru a’u perthynas ag ieithoedd, amgylchedd, hanes a diwylliant Cymru.

 Siom inni yw na fu ymgynghori o fath yn y byd gyda Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad ar Ddyfodol ein Gorffennol yn 2013. Ni fu gennym lais, ychwaith, ar y Grŵp Cyfeirio allanol a gynullwyd yn fuan wedyn.

 Mae’n ymddangos inni nad oes gan y cyrff a ystyriwyd yn rhanddeiliaid yn ystod y camau ymgynghori, ddealltwriaeth o bwysigrwydd enwau i’r amgylchedd hanesyddol nac ychwaith ddealltwriaeth o’r angen i ddiogelu enwau. Yn sgil hynny ni chynhwyswyd darpariaeth benodol yn y Bil mewn perthynas ag enwau lleoedd. Byddem wedi gwerthfawrogi gwahoddiad i gynnig tystiolaeth gerbron unrhyw un o’r gwahanol gyrff a gweithgorau. Wedi’r cyfan, nid oes yr un corff arall â’r arbenigedd a’r enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i allu cynnig cyngor arbenigol ym maes enwau lleoedd Cymru. Yn anffodus ni dderbyniwyd galwad.

 A ninnau’n garedigion brwd o’r amgylchedd hanesyddol, rydym yn unfrydol y dylid gwarchod enwau lleoedd yn union fel y bwriedir deddfwriaeth a chanllawiau i warchod henebion, yr amgylchedd ac adeiladau hynafol. Rhyfedd i aelodau’r gweithgorau fethu ag ystyried, fe ymddengys inni, bwysigrwydd defnyddio enwau i ddatgloi ac i ddehongli’r amgylchedd hanesyddol.

 Barn CELlC yw y dylid cynnwys ENWAU ymysg yr asedau hanesyddol o arwyddocâd cenedlaethol y dylid eu nodi a’u diogelu.

 Barn CELlC yw y dylid cynnwys ENWAU ymysg adnoddau bregus yr amgylchedd hanesyddol.

 Barn CELlC yw y dylid cynrychioli ENWAU yn fframwaith trefnu gwasanaethau’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.

 Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn grediniol fod bwriadau’r Bil Treftadaeth yn gam pwysig tuag at ddiogelu a rheoli gweddillion ffisegol yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae’r amodau a roddwyd gerbron yn cwmpasu adeiladau rhestredig, henebion rhestredig a pharciau a gerddi hanesyddol. Ac mae enwau, wrth gwrs, ynghlwm wrth bob un o’r gweddillion ffisegol hyn; ac mae’r enwau hyn yn corffori negeseuon a drosglwyddwyd inni o’r gorffennol. Heb ystyried tystiolaeth yr enwau, dehonglu’r enwau a gwarant sy’n sicrhau gwarchod yr enwau, mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn ei wedd bresennol, yn ein barn ni, yn anghyflawn. Mae hynny’n drueni. Mae’n golli cyfle.

 Gobeithio y bydd modd ailystyried a diwygio; a rhoi lle dyladwy i enwau wrth drefnu fframwaith gwasanaethau’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.

 Byddai’r Gymdeithas, yn naturiol, yn croesawu’r cyfle i gyfrannu ymhellach i’r drafodaeth. Hyderwn y bydd modd ystyried hynny.

 Byddwn yn gwerthfawrogi petaech yn cydnabod derbyn yr ohebiaeth hon.